Cyngor Ysgol

Mae’r Cyngor Ysgol yn grŵp o blant sydd yn cynrychioli barn y disgyblion eraill ar sut i wella’r ysgol. Mae’r Cyngor Ysgol wedi cynnal stondinau yn y ffair Haf a’r ffair Nadolig. Wrth gael cyngor ysgol mae’r plant yn teimlo eu bod nhw yn gallu rhoi llais i’r disgyblion eraill, gall yr ysgol ymateb i’w barn a’u gofynion a chwarae rol gweithredol i wneud yr ysgol yn well lle.