Welsh Language Charter

 

 

 

 

 

Beth yw buddion defnyddio’r iaith yn gyson yn yr ysgol?

Mae llawer o fuddion o allu defnyddio’r iaith yn gyson yn yr ysgol drwy fod yn ddwyieithog.  Mae’n ddefnyddiol iawn i ni fel sgil ar waith yn y dosbarth yn ogystal â thu hwnt i’r ystafell ddosbarth.  Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn sgil ddymunol ar gyfer dyfodol disglair. 

 Credwn mae prif fuddion yr iaith Gymraeg yw:

  • Oherwydd rydym yn byw yng Nghymru rydym fel ysgol yn gallu dathlu’r iaith, diwylliant, traddodiadau a.y.b. trwy gydol y flwyddyn yn rheolaidd
  • Mae’r Criw Cymraeg yn defnyddio’r iaith yn gyson ac yn annog disgyblion Ysgol Bro Brynach i fod yn ddwyieithog yn ifanc
  • Gallwn fod yn rhugl mewn dwy iaith a fydd yn ein helpu ni ar gyfer dyfodol disglair wrth ymgeisio am swyddi pan fyddwn yn hŷn
  • Drwy defnyddio’r iaith yn gyson yn yr ysgol rydym yn cael y cyfleoedd i ymgymryd mewn digwyddiadau a gweithgareddau amrywiol trwy gydol y flwyddyn e.e. Jambori, yr Urdd, Eisteddfod a.y.b.

Beth mae’r iaith yn ei chynnig i’r disgyblion?

Mae’r iaith Gymraeg yn cynnig amryw o bethau i ddisgyblion Ysgol Bro Brynach.  Cred y Criw Cymraeg y peth pwysicaf mae’r iaith yn gallu ei chynnig i’r disgyblion yw y cyfle i fod yn gwbl ddwyieithog.  Mae siarad Cymraeg yn agor amryw o ddrysau newydd i ni fel gwasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau arbennig na fyddai’n gallu cael ei gynnig i ni drwy gyfrwng y Saesneg.  Yn yr ysgol mae’r Criw Cymraeg yn teimlo bod dyletswydd arnom i ddathlu’r iaith drwy ymgymryd mewn amryw o weithgareddau, digwyddiadau a diwrnodau hwyl e.e. Diwrnod Shwmae, Su’mae fel bydd y genhedlaeth yma’n annog pawb i wneud yr rhun peth.  Mae bod yn Gymro neu’n Gymraes yn beth unigryw a sbesial iawn a mae’r iaith yn rhan ganolog ohoni.

Cyfrifoldeb pwy yw’r iaith? 

Pawb. Mae’n gyfrifoldeb ar bawb i danio ac ehangu’r iaith Gymraeg.  Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo pobl i ddatblygu Cymru i fod yn ddwyieithog erbyn 2050 gyda gweledigaeth uchelgeisiol o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Dyma eich cyfle chi i ddysgu’r iaith orau ar y blaned, ymunwch â ni i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru!

Pam dylai rhieni /gofalwyr siarad Cymraeg gyda chi? 

Dylai rhieni/gofalwyr siarad Cymraeg gyda ni ar bob achlysur oherwydd drwy wneud hynny bydd llawer mwy o bobl yn gallu siarad Cymraeg yng Nghymru, a dyna’r nod.  Rydym ni wrth ein bodd yn dysgu Cymraeg i eraill, ac os ydym yn gallu dysgu rhywbeth newydd i’n rhieni/gofalwyr mae hynny’n hwyl, oherwydd nhw sydd fel arfer yn iawn o hyd!  Wrth annog ein rhieni/gofalwyr i siarad Cymraeg rydym yn gallu cael hwyl wrth addysgu a dysgu eraill.

Sut allwch chi ddysgu’r iaith a helpu’ch plentyn i ddysgu’r iaith?

Gallwch ddefnyddio amryw o apiau Cymraeg i’ch helpu i ddysgu’r iaith a gwella’ch sgiliau gam ymhellach.  Gweler apiau Cymraeg i’r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2:

Apiau Cymraeg

Apiau Llythrennedd

Dyma ddeg o hoff ganeuon Cymraeg mae disgyblion Bro Brynach yn hoffi gwrando iddynt ar ein system sain:

  1. Welsh Whisperer – Ni’n Belo Nawr
  2. Elin Fflur – Y Harbwr Diogel
  3. Candelas – Ddoe, Heddiw a Fory
  4. Dafydd Iwan – Yma o Hyd
  5. Edward H.Dafis – Breuddwyd Roc a Rôl
  6. Candelas – Rhedeg i Baris
  7. Mei Gwynedd – Hei Mistar Urdd
  8. Maharishi – Ty ar y Mynydd
  9. Yws Gwynedd – Sebona Fi
  10. Yws Gwynedd – Drwy Dy Lygaid Di