Llau Pen

Rydym yn cael achosion llau pen yn ail-godi yn yr ysgol yn achlysurol. Yn y dyddiau yma nid yw’r nyrs ysgol yn archwilio pennau plant felly mae’r cyfrifoldeb yn disgyn ar y cartref i gadw golwg ac i ddileu’r broblem.

Er mwyn dileu’r broblem mae’n rhaid i bawb gyd-weithio. Cribwch am lau pen, gan rannu’r gwallt yn ddarnau bach, gan fynd yn ôl o bryd i’w gilydd i’r un darnau er mwyn bod yn siŵr.

Lle i edrych:

  • Yn agos at groen y pen
  • Y tu ôl i’r clustiau
  • Cefn y gwddf
  • Top y pen
  • O dan rimyn y gwallt

Archwiliwch wallt eich plentyn bob wythnos a’i drin ar unwaith os caiff llau byw eu darganfod.

Am gyngor a mwy o wybodaeth cysylltwch â nyrs yr ysgol Barbara Morgan ar 01267 227638 neu cliciwch ar y linc isod.

Ffeithiau-am-Llau-Pen