Grant Amddifadedd Disgyblion

Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC). 

Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol  am ddim neu sy’n LAC.

Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:

1. nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion

2.  cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau

3. monitro a gwerthuso effaith adnoddau

Yn 2019-20 rhoddwyd i Ysgol Bro Brynach ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £1,150.

Yn Ysgol Bro Brynach mae gennym gynllun, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin ac ERW, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.

Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:

  • darparu lefelau uwch o staffio yn y dosbarth fel gellir cefnogi digyblion Cinio Ysgol am ddim yn effeithiol.
  • gwella cyfleoedd allgyrsiol y grŵp targed drwy ddefnyddio gwasnaethau arbenigol megis gwasanaeth cerdd
  • cefnogi dysgwyr a’u teuluoedd drwy sicrhau adnoddau darllen a adnoddau dysgu da.