Gwybodaeth

Ceisiadau am le mewn ysgol

Dylir gwneud cais i blentyn ddechrau ysgol mewn da bryd. Gallwch wneud cais ar-lein trwy ddilyn y linc isod.

Cais am le mewn ysgol

Amseroedd Ysgol
9.00yb – 3.15yp
1.00yp – 3.15yp (i blant meithrin rhan amser)

Gwyliau Ysgol

Cinio Ysgol
£2.67 y dydd / £13.35 yr wythnos yn daladwy trwy ParentPay. Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu pryd eich plentyn ymlaen llaw.

Os teimlir y dylai plentyn gael cinio rhad, gofynnir i rieni gwneud cais ar-lein o’r linc isod.

Cais Am Ginio Ysgol Am Ddim

Ffrwythau
Ceir ffrwythau yn ddyddiol am 30c y dydd / £1.50 yr wythnos. Os dymunir, gellir dod a ffrwyth i’r ysgol.

Casglir arian ffrwyth ar fore Llun. Gofynnir i rieni roi’r arian mewn amlen wedi ei labelu’n glir gyda enw eich plentyn.